ALERT: Jobseekers are being fraudulently contacted by scammers. Click here for more details.
Amdanom ni
Hays Cymru
Mae pobl wrth ganol popeth ni’n neud. Rydym ni’n gwneud mwy na dod o hyd i swyddi – rydym ni’n buddsoddi mewn partneriaethau gydol oes i wireddu eich uchelgais.
Rydym wedi gweithio’n agos gyda chyflogwyr yng Nghymru am dros 35 blwyddyn, o gwmnïau lleol a busnesau newydd i gwmnïau rhyngwladol ac arweinwyr diwydiant. Mae ein partneriaethau yn mynd ymhellach na recriwtio, ac rydym yn falch i fuddsoddi yng nghymunedau Cymru. Dyna pam rydym ni’n gweithio gyda Llamau er mwyn helpu i ddod i ben a digârtrefedd er mwyn newid dyfodol unigolion yn Gymru.
Ynghyd â dros 50 aelod o staff yn gweithredu ar draws 10 arbenigedd, rydym yn ymroddedig i farchnad swyddi Cymru. Bydd gennych fynediad i’r dewis mwyaf o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael, beth bynnag yw eich diwydiant neu broffesiwn dymunol.
Mae ein harbenigedd sector a rhwydwaith helaeth o gyflogwyr yn cael ei gefnogi gan barodrwydd i arloesi ar gyfer eich anghenion penodol. O ddod o hyd i swyddi yn hawdd ar Ap Hays i dderbyn y cyflog diweddaraf a thueddiadau recriwtio, mae gennym y dechnoleg i gefnogi eich taith gyrfa gyfan.
Os ydych chi'n chwilio am swydd ar hyn o bryd, yn newid proffesiwn, neu'n symud i fyny'r ysgol yrfa, gallwch ymddiried ynom i weithio ar gyfer eich yfory.
Cysylltwch ag un o'n hymgynghorwyr arbenigol heddiw neu edrychwch trwy ein swyddi diweddaraf.
Rydym yn falch o’n gwaith yng Nghymru ac mae hunaniaeth a diwylliant bod yn fusnes Cymreig yn bwysig i ni. Oherwydd hyn, rydym am sicrhau eich bod yn gallu cyfathrebu â ni yn y Gymraeg.
Os hoffech siarad ag un o’n hymgynghorwyr sy’n siarad Cymraeg, cysylltwch â ni ar 02920 398198. Os na fydd ymgynghorydd ar gael, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
View this page in English